NOS OLEU LEUAD
Wele dlos leuad lān - yn dyfod
O'i hystafell weithian;
A chwery ei braich arian
Am yddfau cymylau mān.
O lys y wawr pa oleu syn - yw hwn?
Mor ddi-dannau'r dyffryn!
Ple mae ffel seiniau telyn
Adar hoff y doldir hyn?
HEDD WYN
All images subject to copyright.